a Diarhebion 3:34 (LXX)

James 4

Ymostwng i Dduw

1Beth sy'n gyfrifol am yr holl frwydro a'r gwrthdaro sy'n eich plith chi? Onid yr ymdrech barhaus i fodloni'r hunan ydy'r drwg? 2Dych chi eisiau rhywbeth ond yn methu ei gael. Mae'r ysfa yn gwneud i chi fod yn barod i ladd. Dych chi eisiau pethau ac yn methu cael gafael ynddyn nhw, felly dych chi'n ffraeo ac yn ymladd. Dych chi ddim yn cael am eich bod chi ddim yn gofyn i Dduw. 3A dych chi ddim yn derbyn hyd yn oed pan dych chi yn gofyn, am eich bod chi'n gofyn am y rheswm anghywir! Dych chi ddim ond eisiau bodloni eich awydd am bleser.

4Dych chi fel gwragedd sy'n anffyddlon i'w gwŷr! Ydy hi ddim yn amlwg i chi fod bod yn gyfaill i bethau'r byd yn golygu casineb at Dduw? Mae unrhyw un sy'n dewis bod yn gyfaill i'r byd yn gwneud ei hun yn elyn i Dduw. 5Ydych chi'n meddwl fod beth mae'r ysgrifau sanctaidd yn ei ddweud yn ddiystyr: sef fod yr Ysbryd a roddodd i ni yn gwrthwynebu cenfigen? 6Ond mae haelioni Duw yn fwy na hynny eto! Mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud:

“Mae Duw yn gwrthwynebu pobl falch
ond mae'n hael at y rhai gostyngedig.” a

7Felly gwnewch beth mae Duw eisiau. Gwrthwynebwch y diafol, a bydd yn ffoi oddi wrthoch chi. 8Closiwch at Dduw a bydd e'n closio atoch chi. Golchwch eich dwylo, chi bechaduriaid, a phuro eich calonnau, chi ragrithwyr. 9Dangoswch eich bod yn gofidio am y pethau drwg wnaethoch chi, dangoswch alar, ac wylwch. Trowch eich chwerthin yn alar a'ch miri yn dristwch. 10Os wnewch chi blygu o flaen yr Arglwydd a chydnabod eich angen, bydd e'n eich anrhydeddu chi.

11Peidiwch siarad yn ddirmygus am eich gilydd frodyr a chwiorydd. Mae'r un sy'n dirmygu neu'n beirniadu brawd neu chwaer, yn dirmygu ac yn beirniadu Cyfraith Duw. Barnu'r Gyfraith dych chi'n ei wneud wrth feirniadu pobl eraill, dim cadw'r Gyfraith. 12A'r Un sydd wedi rhoi'r Gyfraith i ni, Duw ei hun, ydy'r unig Farnwr go iawn. Fe sydd â'r gallu i achub a dinistrio, dim ti! Pwy wyt ti'n feddwl wyt ti yn barnu dy gymydog?

Brolio am fory

13Gwrandwch, chi sy'n dweud, “Awn i'r lle a'r lle heddiw neu fory, aros yno am flwyddyn, dechrau busnes a gwneud llwyth o arian.” 14Wyddoch chi ddim beth fydd yn digwydd fory! Dydy'ch bywyd chi yn ddim byd ond tarth – mae'n ymddangos am ryw ychydig, ac yna'n diflannu! 15Dyma beth dylech chi ddweud: “Os Duw a'i myn, cawn ni wneud hyn a'r llall.” 16Ond yn lle hynny dych chi'n brolio eich bod yn mynd i wneud rhyw bethau mawr. Peth drwg ydy brolio fel hyn. 17Felly cofiwch, os dych chi'n gwybod beth ydy'r peth iawn i'w wneud, ac eto ddim yn ei wneud, dych chi'n pechu.

Copyright information for CYM